Mae timau achub sy'n ceisio canfod pedwar dyn gafodd eu dal yn sownd mewn pwll glo ger Pontardawe wedi dod o hyd i bedwerydd corff. Mae'r timau achub hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi llwyddo i gyrraedd y corff cyntaf i gael ei ganfod ym mhwll y Gleision ger Cilybebyll yn gynnar fore Gwener. Nid ydynt wedi llwyddo i gyrraedd yr ail gorff a gafodd ei ganfod tua 12.15pm ddydd Gwener. Cafodd y trydydd corff ei ganfod tua 3pm ddydd Gwener. Dyw'r cyrff heb gael eu hadnabod hyd yma. 'Gwahanu'
Bu'r timau achub yn gweithio drwy'r nos i geisio cyrraedd y pedwar
|
Dywedodd Chris Margetts o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y corff cyntaf wedi ei ganfod ar waelod y brif siafft o'r pwll, a'r ail gorff yn agos i'r lle yr oedd yn gweithio. Dywedodd Mr Margetts fod y gwasanaethau achub wedi llwyddo i ostwng lefel y dŵr yn y pwll ac bod hynny'n hwyluso'r gwaith o chwilio. Dywedodd yr Uwch-arolygydd Phil Davies: "Mae teuluoedd y dynion wedi cael clywed am y marwolaethau ac yn amlwg rydym yn cydymdeimlo gyda nhw yn y cyfnod hynod anodd yma." Bu'n rhaid i ddeifwyr oedd yn chwilio am y dynion rhoi'r gorau i'w hymgais dros nos. Y gobaith oedd y byddai'r glowyr - sydd wedi eu dal 90 metr o dan ddaear - wedi medru dod o hyd i boced o aer wedi i'r pwll lenwi gyda dŵr pan chwalodd un o furiau mewnol y gwaith. Y pedwar gafodd eu dal yn sownd yw Phillip Hill, 45, o Gastell-nedd, Charles Breslin (62), David Powell (50) a Garry Jenkins (39) i gyd o Gwm Tawe. Roedd pumed glöwr yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi iddo ddianc o'r pwll wrth i'r dŵr lifo i mewn bore Iau. Llwyddodd dau ddyn arall i ddianc yn holliach, ac roedden nhw'n cynorthwyo'r timau achub gydol y dydd.
|