Fe fydd y ffonau ar gael o fis Medi ymlaen
|
Roedd yn ddiwrnod hanesyddol ar Faes yr Eisteddfod wrth i gwmni ffonau symudol gyhoeddi'r ffôn Cymraeg cyntaf. Cwmnïau Samsung ac Orange sy wedi creu'r ffôn fydd ar gael mewn siopau Orange yn unig o fis Medi ymlaen. O hyn ymlaen mae modd anfon negeseuon testun yn Gymraeg ac mae opsiynau'r fwydlen yn yr iaith. Dywedodd Pennaeth Manwerthu Orange, Sian Doyle: "Mae'r cwmni yn falch eu bod wedi darparu'r gwasanaeth arloesol. "Mae'r farchnad Gymraeg yn bwysig i ni ac mae'n rhan o'n menter ehangach i roi mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg. "Rydyn ni'n buddsoddi yn helaeth yng Nghymru, gan agor siop ddiweddar yn Nhrefynwy. "Ac rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i gwmni Samsung am gyflwyno'r gwasanaeth a chreu meddalwedd penodol - mae mwy na 44,000 o eiriau Cymraeg er mwyn i bobl anfon negeseuon." Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Samsung y cafodd gwasanaeth Gwyddeleg ei lansio'r llynedd.
Mae modd gwnud galwadau ac anfon negeseuon yn Gymraeg
|
"Mae'n profi ein bod ar flaen y gad o ran cyflwyno newidiadau a gwasanaethau y mae'r cyhoedd eu heisiau." Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, ei fod yn llongyfarch y ddau gwmni. "Mae ffonau symudol yn rhan o'n bywyd pob dydd ac mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn ein hiaith ein hunain. "Gan fod y Gymraeg yn perthyn i'r ganrif hon mae'r cwmnïau hyn ar y blaen." Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn croesawu'r cam "pwysig" ond y "dylai'r hawl am wasanaeth Cymraeg fod ar gael i bawb nid yn unig defnyddwyr Orange yn unig". "Er enghraifft, dwi'n ddefnyddiwr O2 ... a dyw heddi ddim wedi newid y sefyllfa. "Does 'na ddim gwasanaeth Cymraeg ar gael." Awgrymodd y dylid rhoi arian ar gyfer y sector i gyd.
|