+++ to secure your transactions use the Bitcoin Mixer Service +++

 

Blog Droed

Hynt a helynt ffan ffwtbol Cymraeg ...

Dim Sky+ ... dim cyfweliad!

21.5.08
Dyma'r stori bêl-droed orau dwi wedi ei chlywed ers amser maith ... mae rheolwr Stockport County, Jim Gannon, yn gwrthod gwneud unrhyw gyfweliad efo Sky Sports cyn rownd derfynol gemau ail gyfle yr Ail Adran gan fod ei focs Sky+ heb weithio ers naw mis!

Labels: , , ,

Be ...? Di o heb fod yn postio ...?

20.5.08
Ia, dwi'n gwybod, dwi heb fod yn postio hanner cymaint â ddylwn i ond dwi'n addo bydd 'na ddigon i'n cadw ni fynd yn ystod yr haf gydag Ewro 2008 a chlybiau Cymru yn Ewrop.

Dwi heb flogio rhyw lawer am lwyddiant Caerdydd yn cyrraedd Wembley a rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ond mae 'na un fideo yr hoffwn i chi ei wylio.

Ymysg yr ystrydebau a'r diflastod brynhawn Sadwrn, roedd 'na un eitem arbennig gan Jonathan Owen yn egluro beth mae'n olygu i fod yn ffan pêl-droed yn ne Cymru.



Dyma oedd gan Martin Kelner i'w ddweud yn ei golofn yn y Guardian ddoe:
He drew parallels with the punk rock movement, with rugby union cast as the overblown prog-rock dinosaurs, and Cardiff City the place for Teenage Kicks. Owen did not shy away from his fellow fans' fondness for a rumble. "You moved to a different beat," he said. "You were sticking two fingers up to the establishment."

Bechod felly i Lineker, Hansen a'u cyfeillion anwybyddu'r eitem yn llwyr wrth i ni ddychwleyd i Wembley ar ôl ei ddarlledu!

Labels: , , ,

Da ni lawr ...

23.4.08
... doedd hi'm yn annisgwyl yn y diwedd. Yn wir, doedd neb yn crio nac yn rhuthro i'r maes er mwyn cofleidio eu gilydd a chydymdeimlo.

Wedi 87 mlynedd o fod yn glwb cynghrair, bydd Wrecsam yn chwarae yn glwb 'non-league' y tymor nesaf.

Mae 'na ddigon o bobl efo barn - neb llai nag Ian Gwyn Hughes, ond 'di Ian ddim mam weld bai, dim ond canolbwyntio ar y tymor nesaf a'r hyn sydd angen ei wneud.

Mae un o flogwyr mwyaf toreithiog Cymru, Eric the Red, yn poeni am Wrecsam ac yn gweld bai ar gefnogwyr pêl-droed gogledd Cymru am eu diffyg cefnogaeth.

A draw ar red-passion, negesfwrdd cefnogwyr Wrecsam, mae pawb yn cael y bai - Brian Little, Brian Carey, y perchnogion, y cefnogwyr ... mae'r rhestr yn faith.

Yn bersonol, does gen i ddim llawer o ffydd yn Brian Little. Fe gafodd o ddigon o amser i sicrhau bod y clwb yn gallu troi'r gornel. Daeth a 12 chwaraewr newydd i'r clwb yn ystod mis Ionawr - ond doedd yr un ohonnyn nhw'n ddigon da.

Ac mae ei dactegau a'i ddewisiadau wedi fy nrysu yn llwyr. Nos Fawrth roedd RHAID i ni ennill os am unrhyw obaith o aros i fyny, ond mi barhaodd Little i chwarae Levi Mackin, chwaraewr mae holl gefnogwyr Wrecsam yn gwybod sydd ddim digon da - ac mi brofwyd hynny eto neithiwr.

Roedd ein prif sgoriwr, Michael Proctor, ar y fainc a phan sgoriodd Henffordd cyn yr egwyl roedd pawb yn meddwl y buasai'n dod â Proctor ymlaen ar gyfer yr ail hanner ... ond na.

Wedi i Henffordd rwydo eu hail gôl fe benderfynodd ddod â Danny Williams i'r maes ... chwaraewr canol cae ... yn lle Mackin? Naci, yn lle Connall Murtagh - y chwaraewyr gorau oedd gennym ni yng nghanol cae. Pryd ddaeth Proctor ymlaen? Efo deg munud i fynd!

Dim ond un o chwaraewyr Little oedd yn chwarae yn ystod y gemau olaf 'ma - Gavin Ward. Cafodd Phil Bolland a Simon Spender - yr unig ddau chwaraewr sydd efo gobaith o gael ei hethol yn chwaraewr y flwyddyn gan y cefnogwyr - eu gadael allan o'r garfan ar gyfer y ddwy gêm ola ... pam?

Mae hi'n mynd i fod yn hâf hir iawn ...

Labels: , ,

Tlws yr Intertoto

21.4.08
Mae'r enwau wedi dod allan o'r het ar gyfer Tlws Intertoto 2008 a bydd cynrychiolwyr Cymru, Y Rhyl, yn wynebu cynrychiolwyr Iwerddon, Bohemians.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei gynnal yn Nulyn ar 21 Mehefin gyda'r ail gymal yn Y Rhyl wythnos yn ddiweddarach.

Dyma fydd blwyddyn olaf Tlws yr Intertoto wedi i Uefa benderfynu diddymu'r gystadleuaeth amhoblogaidd a chreu mwy o lefydd i'r timau yng Nghwpan Uefa o 2009 ymlaen.

Mi fyddai'n edrych yn ôl ar rhai o gemau'r Cymry yn y gystadleuaeth dros y dyddiau nesa' 'ma ... os oes gan unrhyw un ddiddordeb 'lly!

Be? Mae na dîm sy'n waeth na ni?

Dwi'n gallu ymdopi efo'r siom ... fel cefnogwr pêl-droed Cymreig mae dyn yn dod i arfer efo siom ... ond mae'r gobaith yn siwr o'n lladd i!

Os 'da ni'n llwyddo i guro Henffordd nos yfory ... ac yna'n curo Accrington Stanley ar Y Cae Ras ddydd Sadwrn ... ac mae Dagenham yn methu â churo Darlington yn Darlington ddydd Sadwrn ... mae popeth yn ddibynol ar gemau ola'r tymor!

Blimey!

Labels: , ,

Wrecsam v Celtic ... ia, Farsley Celtic

15.4.08
Ia, dim ots be ddudes i yr wythnos diwetha' am Wrecsam yn llwyddo i aros i fyny ... 'da ni i lawr - heb os!

Bues i yn Amwythig ddydd Sul ar gyfer gêm dderby Wrecsam efo Amwythig ond 'dwi'm yn siwr os oedd o'n benderfyniad doeth wedi perfformiad chwerthinllyd arall gan Y Dreigiau.

'Dwi erioed wedi gweld tîm pêl-droed yn chwarae mor sâl â chwaraeodd Wrecsam brynhawn Sul.

Roedd y gêm ar ben fel cystadleuaeth o fewn saith munud wrth i Gavin Ward a Richard Hope(less) lwyddo i wneud smonach llwyr o bas hir a chaniatau i Kevin McIntyre rwydo gôl gwbwl hawdd.

Darren Moss, â aned yn Wrecsam, gafodd yr ail ac i rwbio halen i'r briw fe rwydodd James Constable y drydedd er i Gavin Ward arbed cic wreiddiol Dave Hibbert o'r smotyn.

Roedd 'na dri neu bedwar o chwaraeyr Amwythig yn ciwio yn y cwrt cosbi i geisio rhwydo'r drydedd gôl 'na ... a chyda chefnogwyr Amwythig yn ein gwawdio, roedd yn embaras llwyr i'r 1,400 o gefnogwyr Wrecsam oedd wedi gwneud y daith draw i'r New Meadow.

Roedd Brian Little yn dweud wedi'r gêm ei fod o wedi gorfod gofyn i Joey Jones am gymorth i ladd ar y chwaraewyr:
"I was running out of words at the end and Joey - who is a great hero and friend of mine - felt the need to tell the players some things that weren't complimentary."

... roedd na 1,399 o gefnogwyr eraill fyddai wedi bod yn ddigon parod i leisio eu barn, Brian.

Prin iawn ydi'r adegau 'dwi 'di gweld cefnogwyr Wrecsam yn troi ar eu tîm i'r fath raddau y weles i ddydd Sul - 'dwi'n amau'n gryf fod Drewe Broughton wedi hyd yn oed clywed rhai o'r rhegfeydd oedd yn cael eu bloeddio, yn ôl yr olwg oedd ar ei wyneb!

Ond mae'r cefnogwyr wedi cael digon - da ni 'di bod yn y tri isaf yn Adran Dau ers yr wythnos gyntaf ym mis Medi ond er hyn 'da ni dal wedi gweld torfeydd oddeutu 4,500 ar Y Cae Ras a thorfeydd uchel iawn yn dilyn y tîm o Sadwrn i Sadwrn ar hyd a lled Lloegr.

Efallai ei fod yn rhy hwyr erbyn hyn, ond o leiaf mae'r chwaraewyr yn gwybod na fydd llawer o groeso iddyn nhhw'r tymor nesa wrth i ni herio Farsley Celtic ac Ebbsfleet.

Labels: , , ,

Mae'r cochyn yn ôl

7.4.08
Newyddion da i ni yng Nghymru sy'n ymddiddori yn y bêl gron ... mae'r blogiwr Eric the Red yn ei ôl

Labels: , , , ,

Da iawn K-ee-ardiff

Llongyfarchiadau mawr i Gaerdydd a'u cefnogwyr ar gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Fel mae llawer o ddarllenwyr y blog yma'n gwybod, mae gen i nifer fawr o ffrindiau sy'n cefnogi'r Adar Gleision a 'dwi'n hollol 'chuffed' drostyn nhw. Fel ddudodd un ohonnyn nhw wrtha'i ddoe "Di petha' ddim yn cael llawer gwell na hyn".

'Dwi ddim am sbwylio'r foment wrth gwyno'n ormodol, ond os ga'i ofyn i SKY, BBC, ITV a holl bapurau newydd Lloegr i beidio a chymysgu llwyddiant Caerdydd efo llwyddiant i Gymru mi fyddwn i'n hapus.

"It's a great day for football fans in Wales," meddai SKY ddoe. "It's been a fantastic weekend for Welsh football," meddai rhywun ar Radio Wales bore 'ma ...

... wel, tra bo fi'n cytuno'n llwyr bod hi yn gamp enfawr i Glwb Pêl-droed Caerdydd a thra bo'u rheolwr a'r tîm yn haeddu pob clod 'di hi ddim mor wych â hynny!

'Di'r Duwiau pêl-droed ddim yn gwennu ar y gornel fach yma o Gymru ar hyn o bryd. Mae Wrecsam yn wynebu dyfodol llwm iawn yn y Conference felly tra bo fi'n hapus iawn dros fy ffrindiau sy'n cefnogi Caerdydd, plis, da chi, peidiwch a choelio bod pob cefnogwr pêl-droed Cymreig yn gwenu heddiw.

'Dwi wir yn gobeithio bydd Caerdydd yn gallu ymweld â Wembley deirgwaith wrth gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle hefyd a 'dwi hefyd yn dymuno pob lwc i Abertawe'r wythnos nesa wrth iddyn nhw geisio sicrhau dyrchafiad ... ond peidiwch a chredu bod pawb yn hapus!

Mae pêl-droed yn gallu bod yn greulon iawn.

Labels: , , , ,

'Da ni'n mynd i fod yn saff ...!

1.4.08

'Dwi ddim yn credu'r peth go iawn, ond 'dwi newydd dreulio hanner awr yn cwblhau 'predictor' y BBC a chydag un gêm yn weddill mae Wrecsam allan o safleoedd y cwymp uwchben Mansfield, Dagenham a Redbridge a Chaer!

'Dwn i ddim faint ddylwn i fod yn credu o'r petha' 'ma ... wedi'r cwbwl, 'dwi ddim wedi gallu darogan llawer o ganlyniadau y tymor yma ... ond mae'n rhaid cael gobaith o rhywle!

Mi fyddai osgoi'r cwymp tra'n gweld Caer yn disgyn yn deimlad pleserus tu hwnt ... coeliwch chi fi!

Labels: , , , , , ,