+++ to secure your transactions use the Bitcoin Mixer Service +++

 

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi Cwestiwn

Vaughan Roderick | 14:33, Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2013

Un o'r tasgau lleiaf heriol rwy'n wynebu yn ystod fy wythnos gwaith yw gwrando ar sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog a'i chrynhoi i'r rheiny sy'n gwylio AMPM ar BBC2.

Mae gan y rhaglen gynulleidfa ond mae'n un fechan ac yn llai o dipyn na'r nifer sy'n gwylio fersiwn San Steffan o gwestiynau'r Prif Weinidog bedair awr ar hugain yn ddiweddarach.

Nawr mae'n bosib bod yn well gan y Gynulleidfa Gymreig Andrew Neil na Vaughan Roderick ond esboniad mwy tebygol am y gwahaniaeth yw bod 'na ddiffyg drama yn perthyn i'r croesholi yn y Bae. Mae'r sesiynau'n gallu bod yn ddiddorol ond dyw nhw ddim ar y cyfan yn adloniant da.

Mewn un ystyr dyw hynny o fawr o ots. Atebolrwydd nid adloniant yw'r pwrpas, wedi'r cyfan. Ond mae 'na gred cyffredinol nad yw'r sesiynau'n yn gweithio o'r safbwynt hwnnw chwaith - bod Carwyn Jones yn cael getawe ar bethau byth a hefyd oherwydd cwestiynu llac a'i barodrwydd yntau i droi ei atebion yn ymosodiadau ar lywodraeth David Cameron.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae pobol o bob plaid wedi gofyn i mi beth fyswn i'n gwneud i wella pethau. Mewn gwirionedd does gen i ddim ateb pendant.

Yn rhannol y cast sy'n gyfrifol am fethiant y ddrama. Roedd 'na hen ddigon o wrthdaro a drama yn nyddiau cynnar y cynulliad wrth i Dafydd Wigley ac Alun Michael wynebu ei gilydd yng nghrombil Tŷ Hywel. Os nad yw'r cast presennol yn ddigon siarp ac ysgafndroed i roi her go iawn i'r Prif Weinidog does 'na fawr ddim fydd yn newid hynny.

Serch hynny mae gen i ambell i awgrym strwythurol a allai wella pethau.

Ar hyn o bryd mae'r arweinyddion y tair gwrthblaid yn cael gofyn tri chwestiwn yr un yn y cyfnod a glustnodir ar eu cyfer. Dyw hynny ddim yn ddigon. Yn San Steffan mae Ed Miliband yn cael gofyn hyd at chwe chwestiwn. Mae Andrew RT Davies, Leanne Wood a Kirsty Williams yn cymryd eu tro i agor cyfnod cwestiynau'r arweinwyr. Beth am ganiatáu chwe chwestiwn gan bwy bynnag sy'n mynd gyntaf?

Yr ail beth a allai fod o help fyddai gwahardd aelodau rhag darllen eu cwestiynau. Mae hynny wedi ei wahardd yn San Steffan a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Bae Caerdydd fod yn wahanol.

Yr awgrym olaf sy gen i yw cyfyngu ar y defnydd mae'r aelodau yn gwneud o gyfrifiaduron yn y Siambr. Byswn i ddim yn cael gwared arnyn nhw. Maen nhw'n caniatáu system bleidleisio llawer callach nac un San Steffan ac yn ffordd i aelodau gyfeirio at yr agenda a phapurau perthnasol i'w trafodion. Ond, o ddifri calon, os ydy aelodau'n credu bod hi'n gymwys ddelio a'u post neu bori'r we yn ystod eisteddiad - pa hawl sy ganddyn nhw i gwyno ynghylch diffyg diddordeb ymysg y cyhoedd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:12 ar 19 Mawrth 2013, ysgrifennodd AZARIAH SHADRACH:

    Dwi wedi cwyno am y ffidlan gyda chyfrifiaduron ar y blog yma o’r blaen. Mae’n dda fod VR wedi codi’r mater unwaith eto. Rhaid rhoi stop ar y arfer. Mae’n anghwrtais tu hwnt, nid yn unig i’r aelod sydd ar ei draed neu ei thraed ond hefyd i’r rhai sy’n gwylio ar y teledu. Y tro diwethaf i mi wylio roedd Carwyn yn siarad a Jane Hutt wrth ei ochr yn y rhes flaen yn teipio fflat owt. Bydden i wedi rhoi clipsen iddi a dweud wrthi am dalu sylw.

    Ac un peth arall, mae ise newid cynllun y siambr. Dylai desgiau aelodau’r Cabinet fod yn wynebu’r aelodau eraill. Mae’n ddwl fod Carwyn yn anerch a’r ACau bron i gyd yn eistedd y tu ol iddo fe.

  • 2. Am 19:44 ar 20 Mawrth 2013, ysgrifennodd Dewi:

    Cytuno Vaughan bod 'FMQs' yn hynod o ddiflas i gymharu a Llundain, ac hefyd i Holyrood.

    1. Dwi'n cytuno bod cael cyfrifiaduron yn 'distracting' dros ben. Ond eto, mae'n dda cael nhw yna na chael ACau fyny yn ei swyddfeydd. Felly dwi'n teimlo ddylsa y Comisiwn unai:
    - cael gwared a'r cyfrifiaduron (dyma fysa orau) - ond cadw ryw system pleidleisio awtomatig (fel yn Holyrood) neu
    - rhoi yr hawl i'r Llywydd i roi i sgrins i ffwrdd e.e yn FMQs
    Fy hyn, fyswn i yn hoffi gweld nhw'n mynd - be sy'n gwylltio fi fywaf ydy gweld AC di-gymraeg yn eistedd yn y siambr yn gwneud gwaith tra mae rhywun Cymraeg yn siarad. SUT, sut fedrith rhywun wrando yn yr amgylchiadau yma.

    2. Fyswn i yn rhannu FMQs mewn ddau. Un rhan i arweinyddion y pleidliau eraill ag rhan arall i rhai yn y meinciau cefn.

    3. Fyswn i yn gadael i LW, ART a KW gael hyd at 5 gwestiwn yr un bob wythnos.

    4. Fyswn i yn gwneud yn siwr bod y Llywydd yn dweud rhywbeth os nad yw'r PW yn ateb y cwestiwn.

    5. Peidio gadael iddyn nhw ddarllen ei cwestiwn.

    6. Symud o i 12pm fel PMQs a wedyn gadael Cymru gael 'opt out' o Daily Politics... fel yn yr Albam/

    Ag yn olaf, rhaid i safon y rhaglen mae BBC yn ei gynhyrchu wella (AM.PM).
    1. Ar hyn o bryd mae'n raglen 45munud. Fyswn i yn cynyddu hwn i awr a hanner.
    2. Fyswn i yn gadael i FMQs bara am ryw 35munud
    3. Fyswn i yn cael stiwdio- i adael i bobl trafod be sydd wedi digwydd yn FMQs
    4. Fyswn i yn dilyn yr un format ar Daily Politics (h.y cael ambell stori gwleidyddol arall cyn FMQs ag ar ol o a chael ryw banel i drafod hyn). Yna mae'n rhoi rheswm arall i rywun 'tiwnio' i fewn. Oherwydd ar hyn o bryd Vaughan- mae'n ddrwg gen i ddweud ond dwi'n edrych ar Democracy Live. Pam? wel dydy AM.PM prin ddim werth i edrych arno.... danin cael pwt o funud gan Danny yn y dechrau ag yna ryw 5munud gan y chi. Di hyn ddim yn fwy na be mae Dem Live yn ei wneud.

    Felly rhaid I CHI yn y BBC trio creu rhaglen gwell- a eto, fyswn i yn dilyn format y DP... fel mae'r Alban wedi'i wneud!

    P.S Vaughan- pam bod chi wedi cael gwared or stiwdio nawr? mae'r cynhyrchiad yn edrych yn hyd yn oed mwy 'cheap' erbyn hyn!

  • 3. Am 13:17 ar 21 Mawrth 2013, ysgrifennodd Dewi:

    Rwy'n cytuno gyda AZARIAH SHADRACH, mae angen newid y siambr.

    Mae adeilad y Senedd yn un dwi yn hoffi (er fysa City Hall wedi bod yn well). Mae'n adeilad agored, gyda views gwych o'r Bae.
    Ond yn eironig mae'r Siambr wedi'i leoli lle nad yw'n agored, lle nad oes view o'r Bae.

    Mae'r siambr ei hyn hefyd yn 'questionable'. Dydy o ddim yn edrych fel Senedd, sori ond dydy o ddim.

    Nai ddim dweud pam (rhag ofn). Ond nai ddeud be fyswn i yn newid:

    1. Cael seddi yr un peth (mae'r wahanol mathau o seddi megis Jeff Cuthbert) yn edrych yn fler. Fysa chi ddim yn gweld yr un AS yn gofyn am newid mainc yn San Steffan- pam ddylsa AC.

    2. Fyswn i yn cael carped lliw niwtral yn y Senedd- mae'r pren yn edrych yn od ar teledu.

    3. Fyswn i yn cael gwared or sgriniau teledu. Prin mae nhw'n cael ei ddefnyddio a mae'n wneud i'r ystafell edrych yn od.

    4. Fyswni i yn cael un wal yr un lliw reit o gwmpas y Siambr - dim y paneli yna. A peidio cael ffenestri du 'na sy'n edrych i fewn i'r Siambr. Eto mae rhain yn gwneud i'r lle edrych yn fler.

    5. Efallai fysa fo'n syniad cael 'pwlped' lle mae'r Llywydd fel lle, lle mae Gweinidogion yn siarad o. Yna fydd nhw yn gwynebu ei gilydd.

    6. Cael gwared o 'the heart of Wales' yn ganol y siambr a chael 'royal badge y Cynulliad' yno.

    7. NEU GORAU OLL, FYSWN I YN SYMUD LLE MAE'R SIAMBR AR HYN O BRYD A'I LEOLI YN RHAN 'YR ORIEL' O'R SENEDD. FYSA HYNNY YN GWNEUD I'R SIAMBR EDRYCH LLAWER MWY AGORED, A LLAWER MWY "PARLIAMENTARY" AR Y TELEDU.a


    P.S Vaughan, paham nad oes arwyddion yn y Bae yn dweud beth yw'r adeilad y Senedd? dwi wedi gweld llawer o ymwelwyr yn meddwl be ydy o. Pam ddi cael llechen yma a thraw yn dweud be ydy o.... ag croesawu pobl yno.

    Gorau oll- pam ddim cael banner Cymru tu flaen yr adeilad/ar dop yr adeilad (yn lle ar yr ochr)... fel mae bron bob Senedd arall yn ei wneud! Neu hyd yn oed banneri, siroedd Cymru i gyd yn hedfan ar y steps llechi sydd yn mynd i fyny i'r Senedd.

    Felly ydw dwi'n hoffir Senedd. Ond fyswn i yn hoffi newid ambell beth (lot fawr ohonynt yn rai syml, fysa ddim yn costio llawer!).

    PS2 Vaughan: sut ar y ddear nath ACau adael i'r Cynulliad roi baner "Cafe Inside" reit o flaen y Senedd? Fysa San Steffan yn rhoi banner LED ar Big Ben yn dweud "Bar Here". Na. Oedd hynnyn warthus.

  • 4. Am 18:52 ar 21 Mawrth 2013, ysgrifennodd Alun Thomas:

    Plis plis rhaid cael rheolaith ar y defnydd o'r cyfrifiaduron yma. Newydd edrych ar clip o Leighton A yn trafod sefyllfa'r iaith gyda Alun Fred ac Elin J tu ol iddo yn "chwarae" gydar'r cyfrifiadur neu yn sgwrsio trwy yr holl sesiwn!!

  • 5. Am 20:12 ar 21 Mawrth 2013, ysgrifennodd Twlsyn Jones:

    Rwy'n derbyn fod y busnes cyfrifiaduron yn ddwl. Ond, os gaf i amddiffyn gwleidyddion y Bae am unwaith, beth arall mae'n nhw fod iw wneud?

    - Yn amlach na pheidio mae datganiad y Gweinidog wedi cael ei gyhoeddi tua awr ynghynt, ac felly mae'r ACau yn ymwybodol o'i gynnwys
    - does dim hawl gan yr ACau ymyrryd. Oherwydd gweithdrefn y Siambr mae'r rhai hynny sydd am ofyn cwestiynnau yn gwybod hynny rai diwrnodau o flaen llaw, ac mae'r Gweinidog yn gwybod hefyd! O ran pawb arall, does ganddyn nhw ddim cyfraniad i'r charade, nid eu methiant hwy yw hynny ond methiant y drefn.
    - Mae sesiwn plenary yn 6 awr o eistedd yn y siambr heb hawl i ymyrryd, gan wrando ar gyhoeddiad sy'n ail adrodd ei hun!

    Rhaid i'r ACau fedru gwneud rhywbeth mwy adeiladol hefo'u hamser nag eistedd yno'n ddiflas, felly pam ddim delio efo gwaith achos a gwaith etholaethol tra yno? Mae'n gwneud synnwyr i fi.

    Fel rwy wedi ei ddweud, nid methiannau'r ACau yw hyn, ta waeth pa mor gryf neu sal ydyn nhw, ond methiant ar ran y diffyg democratiaeth sydd ganddo ni, oherwydd dyna ydy o yn y bon.

  • 6. Am 20:23 ar 21 Mawrth 2013, ysgrifennodd AZARIAH SHADRACH:

    Mae’n amlwg oddi wrth yr ymateb fod yna ddigon o le i wella ar arferion a delwedd y Senedd. Beth am ddefnyddio dy flog i ganolbwyntio’n amlach a’r y diffygion hyn. Efallai cawn ni lwyddiant. Ergyd i’r post i’r carreg gael clywed, fel petai.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.