+++ to secure your transactions use the Bitcoin Mixer Service +++

 

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Drygioni Deg o Ni

Vaughan Roderick | 09:21, Dydd Iau, 4 Ebrill 2013

Dyma i chi gyffesiad. Ar y cyfan dydw i ddim yn hoffi newyddiadura ynghylch y cyfryngau na'r Gymraeg. Maen nhw'n bynciau sy'n rhy agos at adref rhywsut. Serch hynny o bryd i gilydd mae rhywbeth yn fy ngwylltio neu'n fy niddori digon i fy nhemtio i'r meysydd hynny.

Digwyddodd hynny rhai misoedd yn ôl ar ôl i mi gael fy nhrin yn ofnadwy o wael gan yr Office of National Statistics ar ôl gofyn am wasanaeth Cymraeg. Fe sortiwyd y peth gan swyddfa'r Comisiynydd Iaith yn y diwedd ac fe ges i wasanaeth Cymraeg. Dydw i ddim eto wedi derbyn ymddiheuriad gan yr ONS nac hyd yn oed llythyr yn cydnabod y gwyn.

Nawr bant a fi eto. Ydych chi'n cofio'r stori yma o fis Hydref y llynedd?

Roedd hi'n ymddangos yn wirion ar y pryd bod y "Gronfa Loteri Fawr" yn gwrthod rhoi cymorth i bapur bro Cymraeg ar y sail nad oedd ei wefan yn ddwyieithog. Ymddengys bod y gronfa wedi sylweddoli pa mor hurt oedd ei safiad ac yn dawel fach cafodd y penderfyniad ei wyrdroi.

Wrth gwrs cymdeithas fach llaw i geg yw cyhoeddwyr y Gloran. Ydy plismyn iaith y Gronfa Loteri Fawr yr un mor frwdfrydig ynghylch dwyieithrwydd wrth ddelio ac elusennau llawer mwy sy'n gweithio yn bennaf trwy'r Saesneg?

Dim ffiars o beryg.

Derbyniodd elusen "Tenovus" sydd a'i phencadlys yng Nghaerdydd bron i filiwn o bunnau i sefydlu corau i gleifion sy'n brwydro cancr. Mae'n syniad wych. Does dim byd yn fwy Cymreig a Chymraeg na chôr. Beth sydd gan wefan Tenovus i ddweud am y cynllun?

"Mae Tenovus yn gweithio i'r eithaf i ddarparu gwybodaeth yn y Gymraeg ble bynnag posib, ond ar hyn o bryd nid oes gennym cyllid nag adnoddau i gynnig gwefan dwyieithog."

Et tu, Tenovus?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:48 ar 4 Ebrill 2013, ysgrifennodd Efrogwr:

    Diolch a galon am dynnu sylw at hyn. Aeth y casgliad arian er cof am fy mam at Tenovus, felly dwi'n teimlo yn arbennig o drist am ddirmyg Tenovus. Mae esgus Tenovus codi cywilydd arnynt. Dyma Tenovus yn ymwrthod ag egwyddorion parch a chynwysedd. Maent yn digon hapus cymryd arian gan bawb ond wedyn yn poeri yn wynebau'r Cymry Cymraeg. Dylai cyrff o'r fath golli statws elusen os ydynt am ymddwyn fel hyn. Ydy Tenovus yn ymwybodol bod Cymry Cymraeg a'i teuluoedd yn dioddef o ganser hefyd, tybed?

  • 2. Am 11:34 ar 4 Ebrill 2013, ysgrifennodd Henri:

    Da y dywedoch Mr Roderick. Er gallai dyn ddadlau'n hawdd ei bod yn bwysicach gwario ar gael gwellhad i gancer nag ar wefannau Cymraeg. Ond egwyddor yw egwyddor.

  • 3. Am 10:53 ar 6 Ebrill 2013, ysgrifennodd Neilyn:

    Mae geiriau'r Arglwydd parthed 'Y Frwydr' dal i atsain yn fy nghlustiau.....ac yn dal i swnio mor wag ag erioed.

    Tenovus - dim Cymraeg, dim rhodd.

  • 4. Am 15:27 ar 9 Ebrill 2013, ysgrifennodd Pen Pastwn:

    Siom yw diffyg parch Tenovus - ac er y gellid dadlau y gallai hi fod yn anodd i elusen gyfiawnhau gwario arian mawr i gyfieithu pob dim, eto dyw hi ddim yn ormod disgwyl craidd sylweddol o wybodaeth i'r defnyddiwr Cymraeg. Ddim un paragraff tila yn unig. On'd oes ganddynt staff a gwirfoddolwyr Cymraeg?

    Ond rwy'n credu bod pethau'n gwaethygu yn gyffredinol:
    - ceisiais i ddod o hyd i wybodaeth am brisiau postio ar wefan y Swyddfa Bost - camp i chi ddod o hyd i unrhyw wybodaeth yn y Gymraeg fan'na.

    - ychydig o wythnosau yn ôl fe ges i lythyr gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedaethol yn gweud yn ddi-flewyn-ar-dafod eu bod nhw'n dod â'u cynllun iaith i ben - y Gymraeg yn rhy ddrud.

    - ryn ni wedi cofrestru i gael ein biliau BT a gwybodaeth yn Gymraeg - yr wythnos hon fe ges i lythyr Saesneg yn gweud y bydd yn rhaid talu £1.50 am bob bil (Cymraeg neu Saesneg am wn i) o hyn allan - ond gellir cael bilio ar y we am ddim - a hyd y gwelaf i does gan BT ddim Cymraeg ar eu gwefan nhw. Felly, os am gael gwasanaeth Cymraeg rhaid talu £1.50 am bob bil - cewch ddefnyddio'r gwasanaeth Saesneg ar y we am ddim.

    Rwy wir yn meddwl bod angen rhyw fath o Undeb Defnyddwyr Cymraeg - neu ryw fath o Which (y gallai hyd yn oed Dori ymaelodu â hi!) - a allai casglu pob cynllun iaith ynghyd ar un wefan; esbonio sefyllfa'r gyfraith mewn geiriau dealladwy; darparu seiat drafod i ddefnyddwyr allu rhannu eu profiadau - gwael neu dda; cymharu gwahanol wasanaethau e.e. banciau; rhoi gwybodaeth am yr holl wasanaethau sydd ar gael; pwyso ar gwmni neu gorff ar ran yr aelodau; annog aelodau i gefnogi busnesau sy'n cefnogi'r Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae'n brofiad hynod rwystredig ac unig, ac mae'n rhy hawdd gadael i bethau fynd. Beth amdani 'Dyfodol'?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.